Offerynnau Statudol na Ystyriwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol cyn diddymu’r Cynulliad.
Gosodwyd pob un o’r offerynnau a ganlyn gerbron y Cynulliad yn rhy hwyr i ganiatáu iddynt gael eu hystyried yn llawn gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad.
Yn y Pedwerydd Cynulliad, nid yw’n debygol y caiff y pwyllgor perthnasol ei sefydlu tan ar ôl i’r terfyn amser o 20 niwrnod ar gyfer cyflwyno adroddiad ddod i ben. Hefyd, mae’n bosibl y bydd y terfyn amser o 40 niwrnod[1], pan gaiff y Cynulliad ddirymu’r offerynnau, wedi dod i ben cyn y caiff y pwyllgor newydd gyfle i ystyried yr offerynnau hyn.
O dan yr amgylchiadau hynny, ni fyddai’r offerynnau wedi bod yn destun gwaith craffu gan y Cynulliad, a byddai Aelodau’r Cynulliad wedi colli cyfle i gyflwyno cynigion i ddirymu unrhyw un o’r offerynnau.
Felly, mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol wedi cytuno i gyflwyno adroddiad, o dan Reol Sefydlog 15.3, yn nodi y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol dalu sylw arbennig i’r offerynnau statudol hyn am eu bod yn ymwneud â mater o bolisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad, gan ei bod yn bosibl y byddant yn osgoi’r trefniadau craffu arferol ar gyfer offerynnau statudol.
CA581 Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 28 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 29 Mawrth 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 14 Mehefin 2011
CA582 Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn: Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 24 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 29 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 11 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 15 Mehefin 2011
CA583 Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 24 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 29 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 11 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 15 Mehefin 2011
CA587 Rheoliadau’r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 1 Awst 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA588 Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 23 Mehefin 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA589 Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA590 Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 21 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA591 Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 22 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA592 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 22 Ebrill 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 16 Mehefin 2011
CA593 Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 31 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 21 April 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 17 Mehefin 2011
CA594 Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011
Esboniad Pwrpas: Gweler y nodiadau esboniadol
Gweithdrefn : Y weithdrefn negyddol
Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011
Fe’u gosodwyd ar: 31 Mawrth 2011
Yn dod i rym ar: 1 Mehefin 2011
Dyddiad olaf ar gyfer eu dirymu: 17 Mehefin 2011
[1] Cyfrifwyd y dyddiadau olaf ar gyfer dirymu offerynnau ar sail dyddiadau’r toriadau fel ar 31 Mawrth 2011